Scroll To Top

 

 

 

 

08.05.2018 - Sut ydym yn addurno dillad yn Sional?

Sut ydym yn addurno dillad yn Sional?
Diolch i’r cyfleusterau gynhyrchu yma yn Sional a’n staff wybodus, fedrwn ni cynnig addurniad ar dillad heb osod lleiafrif ar y maint sydd rhaid archebu. Yn wahanol i rhai cwmniau sy’n defnyddio cwmniau eraill i brintio neu brodio eu dillad, fedrwn ni helpu chi os ydych angen 1000 o cyrsau-t neu dim ond un.

Y ddau brif dull o addurno sy’n cael ei ddefnyddio yma yn Sional yw brodio a printio hefo ‘vinyl’.
Pa un sydd gorau? Mae hyn yn dibynnu ar pa dilledyn ydych yn ddewis ac i be fyddant yn cael ei defnyddio. Os ydych yn chwilio am côt neu siaced, byddwn yn awgrymu logo wedi’u brodio am ei fod yn fwy parhaol a bydd yn paru am oes y côt. Os ydych yn chwilio am crys-t ar gyfer clwb rhedeg, logo wedi’u brintio fyddain fwy addas i’r defnydd teneuach. Bydd y logo wedi’u brintio yn parhau mor hir a logo wedi’u brodio cyn belled ei fod yn cael ei golchi yn ôl y cyfarwyddiadau golchi.

 

Beth arall fedrwn ni cynnig?

Yn ogystal a brodio a ffrintio gya ‘vinyl’, fedrwn ni gynnig ddull arall o brintio sef ‘sublimation.’ Mae’r process yma yn newid lliw y defnydd yn lle gosod defnydd arall (sef y ‘vinyl’) ar ben y dilledyn. Os ydych eisiau printio llun neu logo cymhleth, y brosess yma fydd yn fywaf addas. Mae printio ‘sublimation’ yn fwyaf effeithiol ar dillad golau.

Fedrwn ni gynnig printio sgrin i chi ar archebion mawr. Mae’r broses yma yn rhoi canlyniad clir ac effeithiol i addurniadiadau hefo 3 neu 4 o lliwiau.

Bydd ein staff gwybodus yn hapus iawn i helpu chi ddewis y dull o addurno sy’n fwyaf addas i chi yn ôl y dilledyn sy’n cael ei ddewis.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i ofyn am ddyfyniad.

 

Yn Ôl i Newyddion diweddaraf