Scroll To Top

 

 

 

 

08.05.2018 - Anturiaethau elusennol yn 2018

imageMae 2018 yn siapio i fod yn flwyddyn brysur iawn i Sional hefo llwyth o pethau ymlaen i godi arian at elusennau. Rydym yn cefnogi ‘Hope House Children’s Hospices’ fel ein elusen y flwyddyn. Darllennwch fwy am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan y tim yn Hope House a Ty Gobaith yn fan hyn.

Fel cwmni, byddwn yn noddi prif digwyddiad Ty Gobaith am y flwyddyn sef taith 10-milltir i ben y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, Yr Wyddfa. Gyda 300 o gerddwyr yn codi o leiaf £100 yr un, mae Ty Gobaith yn ceisio codi dros £30,000 i’r elusen. Bydd criw o Sional yn Llanberis ar y 1af o Orffennaf i gymeryd rhan yn a trec a byddwn hefyd yn rhoddi crys-t wedi’i brintio i pawb sy’n cerdded i fyny.

Ym mis Ebrill, bydd un o’r tim yma yn Sional yn rhedeg y marathon yn Llundain. Bydd Anthony, sy’n rhedwr profiadol, yn ceisio cwblhau y marathon yma am y tro cyntaf ac yn codi arian tuag at Ty Gobaith. Edrychwch allan am crys-t Ty Gobaith ymysyg y rhedwyr i gyd!

I’r awyr nesaf ac i Sir Amwythig lle bydd dwy ferched ddewr o Sional yn neidio allan o awyren o 10,000 troedfedd! Mae’r digwyddiad plymio awyr yn cael ei drefnu gan Ty Gobaith a bydd Sioned a Jenny yn ceisio codi £1000 rhyngddynt i’r elusen.

Rydym yn trefnu digwyddiadau yma yn Sional, fel bore coffi, gwerthu cacennau a byddwn hefyd yn gwerthu hen stoc dillad gyda’r elw yn cael ei casglu i Ty Gobaith.

Gadewch mewn cysylltiad efo ni am mwy o wybodaeth!

I ymuno ar unrhyw un o’r digwyddiadau, ymwelwch a’r ‘Hope House What’s On Guide’ neu os hoffech chi gefnogi ein hymdrechion, ymwelwch a’n tudalen Just Giving

 

Yn Ôl i Newyddion diweddaraf