Scroll To Top

 

 

 

 

07.05.2018 - Rydym yn falch o rhannu ein gwefan ddwyieithog newydd-sbon hefo chi â adeiladwyd gan Delwedd Cyf.

imageBydd y dudalen cartref yn galluogi chi i symud rhwng ein safle dillad, safle nwyddau hyrwyddol ac ein safle Siopau Clwb sydd wedi’i diweddaru a gwella.

Rydym wedi ailwneud ein safleoedd dillad a nwyddau hyrwyddol fel bod ni yn gallu cynnig profiad defnyddwyr gwell i chi hefo dewisiad gwell o’n nwyddau. Rydym yn gwerthu dros 60,000 o nwyddau felly os ni fedrwch ffeindio yr eitem penodol, cysylltwch â ni, mae’n debyg gallwn ni gael gafael arno i chi. Os ydych yn un o’n cwsmeriaid Siopau Clwb, fe welwch chi bod y safle yma yn newydd-sbon diolch i Delwedd eto. Gobeithio wnech chi ffeindio y safle yma yn haws i’w ddefnyddio ac yn gyflymach i osod eich archebion.

Mae safleoedd ni i gyd erbyn hyn yn ymatebol sy’n golygu bod nhw yn newid yn dibynnu pa dyfais ydych yn ddefnyddio. Gan bod y nifer o archebion sy’n cael ei osod ar ddyfais symudol yn codi a chodi, rydym yn ceisio cynning y gwasanaeth yma i’n cwsmeriaid.

Rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cyrmraeg yn Sional felly rydym wedi penderfynu nawr yw’r amser i cael wefan dwyieithog fel bod ein cwsmeriaid yn gallu penderfynu archwylio’r wefan yn Cymraeg neu Saesneg. Mae’r botwm ar dop y dudalen yn galluogi chi newid rhwng y Gymraeg a Saesneg yn hawdd.

Diolch i Delwedd am eu gwaith caled ar y wefan. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau gall Delwedd gynnig i chi, ymwelwch a www.delwedd.co.uk neu cysylltwch post@delwedd.co.uk

Gobeithio wnewch chi fwynhau archwylio!

 

Yn Ôl i Newyddion diweddaraf